Lleoliad:
Hybrid: Ystafell Bwyllgora 4 Tŷ Hywel a
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 30 Mehefin 2022
Amser:
09. -
14.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12855
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Llyr Gruffydd AS (Cadeirydd) Janet Finch-Saunders AS Huw Irranca-Davies AS Delyth Jewell AS Jenny Rathbone AS Joyce Watson AS |
Tystion: |
Syr David Henshaw, Cyfoeth Naturiol Cymru Sarah Williams, Cyfoeth Naturiol Cymru Peter Davies, Grŵp Gorchwyl a Gorffen Adferiad Gwyrdd Gareth Cunningham, RSPB Cymru Yr Athro Steve Ormerod, Prifysgol Caerdydd Annie Smith, RSPB Dr Nerys Llewelyn Jones, Asesydd Interim Diogelu'r Amgylchedd Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Marc Wyn Jones (Clerc) Elizabeth Wilkinson (Ail Glerc) Andrew Minnis (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r tystion i’r cyfarfod.
1.2 Datganodd Joyce Watson AS fuddiant perthnasol fel aelod o RSPB.
2 Adferiad Gwyrdd yng Nghymru
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Syr David Henshaw, Cadeirydd y Grŵp Adferiad Gwyrdd (a Chadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru), Sarah Williams, Pennaeth Strategaeth Corfforaethol, Cyfoeth Naturiol Cymru a Peter Davies, Aelod o’r Grŵp Adferiad Gwyrdd (a Chadeirydd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru).
3 Trefniadau llywodraethu amgylcheddol interim
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Dr Nerys Llewelyn-Jones, Asesydd Interim Diogelu'r Amgylchedd Cymru.
4 Adferiad gwyrdd a threfniadau llywodraethu amgylcheddol interim
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gareth Cunningham, Pennaeth Cadwraeth Cymru, y Gymdeithas Cadwraeth Forol, yr Athro Steve Ormerod, Athro ym maes Ecoleg a Chyd-gyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Dŵr, Ysgol y Biowyddorau, Prifysgol Caerdydd, ac Annie Smith, Pennaeth Polisi Natur a Gwaith Achos, RSPB Cymru.
5 Papurau i’w nodi
5.1 Nododd y Pwyllgor y papurau o dan eitem 5.1 i 5.6.
5.1 Adferiad gwyrdd a threfniadau llywodraethu amgylcheddol interim
5.2 Teithio ar fysiau a’r rheilffordd yng Nghymru
5.3 Y Grŵp Trawsbleidiol ar Ymchwil Feddygol
5.4 Y Grŵp Rhyngweinidogol ar gyfer Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol
5.5 Llywodraethu amgylcheddol
5.6 Trafnidiaeth - terfyn cyflymder trefol
5.6.1 Croesawodd y Pwyllgor y rheoliadau i gyflwyno cyflymder diofyn mewn ardaloedd trefol a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Newid Hinsawdd yn gofyn am eglurhad ar y cynlluniau i osod arwyddion ar gyfer y terfyn cyflymder newydd.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
6.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
7 Adferiad gwyrdd yng Nghymru - trafod y dystiolaeth a glywyd o dan eitem 2
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2 a 4.
8 Trefniadau llywodraethu amgylcheddol interim - trafod y dystiolaeth a glywyd o dan eitem 3
8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 3 a 4.
8.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Prif Weinidog cyn y datganiad deddfwriaethol arfaethedig ar 5 Gorffennaf 2022 i nodi ei safbwynt ynghylch Bil llywodraethiant amgylcheddol.
9 Ystyried dull gweithredu ar gyfer y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil Banc Seilwaith y DU
9.1 Cytunodd y Pwyllgor ar ei ddull o drafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil Banc Seilwaith y DU. Cytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i ofyn am ragor o wybodaeth a/neu eglurhad ar faterion yn ymwneud â’r Memorandwm.
10 Trafod adroddiad drafft y Pwyllgor ar gysylltedd digidol yng Nghymru
10.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ar gysylltedd digidol yng Nghymru, a chytunwyd arno.